Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee
Ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon
| Inquiry into Teachers' Professional Learning and Education

TT 21
Ymateb gan : Gwasanaeth Effeithiolrwydd (GwE)
Response from : Gwasanaeth Effeithiolrwydd (GwE)

Adroddiad gan:          Rheolwr Gyfarwyddwr GwE

 

 

1.0          Pwrpas yr adroddiad

1.1        Diweddariad ar Ddysgu Proffesiynol

 

2.0        Cefndir

 

2.1       Yn dilyn adolygiad cychwynnol (2014) o’r cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a gynigir i ymarferwyr ar draws Gogledd Cymru, amlygwyd bod angen i GwE ddatblygu ystod o raglenni DPP ar draws yr holl gyfnodau allweddol a’r holl sectorau. Sefydlwyd Rhaglenni Datblygu GwE gan roi ffocws ar ddarparu datblygiad proffesiynol effeithiol ar sawl lefel.

 

2.2       Bellach, mae GwE’n cynnal rhaglenni datblygu ar gyfer yr ystod lawn o ymarferwyr, o Gynorthwywyr Addysgu lefel Uwch (CALU) i Benaethiaid profiadol (Rhaglen Datblygu Penaethiaid – RhDP).

 

3.0        Rhaglenni Datblygu GwE (i’w hailenwi – Rhaglenni Dysgu Proffesiynol GwE)

 

3.1       Nod Rhaglenni Dysgu Proffesiynol GwE yw:

 

3.2       Rhaglenni Dysgu Proffesiynol presennol GwE:

Mae’r rhaglenni canlynol yn benodol ar gyfer Penaethiaid:

Mae gwybodaeth am yr uchod ar gael ar ein gwefan: http://www.gwegogledd.cymru/cy/canolfan-wybodaeth/rhaglen-ddatblygu-gwe

 

3.3       Mae ysgolion unigol a/neu glystyrau o ysgolion hefyd yn datblygu rhaglenni penodol mewn cydweithrediad â GwE, e.e.

 

4.0       Cefnogaeth bellach a gynigir ar gyfer Dysgu Proffesiynol, ac eithrio’r rhaglenni ffurfiol

 

4.1       Cynigir rhaglenni pwrpasol pellach ar sail Hwb / ALl / ysgolion unigol yn dibynnu ar yr anghenion penodol, e.e.

 

4.2       Gwaith penodol yn rhoi ffocws ar ddatblygu sgiliau hyfforddi (coaching), e.e.

·         Rhaglen Ddatblygu 3 diwrnod i Benaethiaid ar ‘hyfforddi’ (coaching)

·         Sesiynau hyfforddi un ar un ar gyfer Penaethiaid unigol

·         Darparu ‘Hyfforddwyr Arweinyddiaeth’ (Penaethiaid profiadol) ar gyfer ymgeiswyr CPCP

·         Arweinwyr Canol yn gweithio fel Mentoriaid ANG gan gefnogi unigolion mewn ysgolion eraill

 

4.3       Darparwyd Rhaglenni Dysgu Proffesiynol cyffredinol a phwrpasol effeithiol ar gyfer staff GwE. Mae’r rhaglenni datblygu’n cynnwys:

O ganlyniad, mae cysondeb ac ansawdd yr her a’r gefnogaeth i ysgolion wedi gwella’n sylweddol, gyda gwelliannau mesuradwy yng ngwaith ymgynghorwyr her unigol.

 

5.0       Crynodeb

 

5.1       Mae’r holl raglenni datblygu uchod yn rhoi ffocws ar y meddylfryd o gydweithio ysgol-i-ysgol, gydag ymarferwyr effeithiol o ysgolion yn cyflwyno sesiynau ar y cyd â staff GwE neu, yn achlysurol, gydag ymgynghorwyr allanol.  Mae hyn yn datblygu’r syniad o feithrin system sy’n hunan-wella ar draws Gogledd Cymru ymhellach.

 

5.2       Hyd yma, mae dros 1000 o ymarferwyr ar draws Gogledd Cymru wedi cymryd rhan yn rhaglenni datblygu GwE, ac mae eu dylanwad i’w weld ar lefel unigol, ar lefel ysgol ac ar lefel y system. Yn y pen draw, ffocws yr holl raglenni yw datblygu unigolion er mwyn sicrhau’r addysg a’r cyfleoedd gorau posib ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc, a thrwy hynny codi safonau ar draws pob cyfnod allweddol.

 

5.3       Mae GwE wedi cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r Rhaglenni Dysgu Proffesiynol. Yn dilyn cais gan y Bwrdd Datblygu Arweinyddiaeth Cenedlaethol (BDAC) i gonsortia arwain ar ddatblygu agweddau penodol o’r Llwybr Datblygu Gyrfa, derbyniodd GwE gyfrifoldeb arweiniol am ddatblygu datblygiad proffesiynol effeithiol ar gyfer arweinwyr canol a Phenaethiaid. Gwerthuswyd y rhaglenni datblygu ar gyfer arweinwyr canol a Phenaethiaid gan ymgynghorwr allanol gan rannu’r cynnydd a’r gwersi a ddysgwyd yn genedlaethol. Cafwyd diddordeb gan gonsortia eraill, gan arwain at 9 ymarferydd o ranbarth ERW’n mynychu Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth Ganol GwE, a rhanbarth ERW’n mabwysiadu Rhaglen Datblygu CPCP 2016 / 2017 GwE.

 

 

6.0       Materion i’w hystyried

6.1       Mae angen cysylltu ac ymgorffori’r blaenoriaethau cenedlaethol yn fwy effeithiol wrth gefnogi datblygiadau lleol.

6.2       Mae angen ystyried ymhellach y posibilrwydd o achredu’r rhaglenni datblygu, mewn cydweithrediad â Phrifysgolion Bangor a Glyndŵr.

6.3     Mae angen datblygu’r gwaith ar addysg gychwynnol i athrawon ymhellach, gan sicrhau bod GwE, ynghyd â’r ddwy Brifysgol, yn chwarae rôl allweddol yn y broses o ddiwygio Addysg Gychwynnol i Athrawon a’r rhaglenni AGA ar gyfer y dyfodol.

6.4       Mae angen i ddatblygiadau Dysgu Proffesiynol sydd i ddod fynd i’r afael â’r pum blaenoriaeth gwella a nodir yn nogfen Cymwys am Oes 2 Llywodraeth Cymru:

i. Lles

ii. Addysgu a Dysgu (Addysgeg)

iii. Cwricwlwm ac Asesu, ar sail y Pedwar Pwrpas a amlinellir yn Dyfodol Llwyddiannus.

iv. Arweinyddiaeth

v. System sy’n hunan-wella

6.5       Dylid bod yn ymwybodol fod angen darparu dysgu proffesiynol effeithiol i bob ymarferydd ar hyn o bryd, gan gadw mewn cof hefyd wrth i ni symud ymlaen y datblygiadau i’r cwricwlwm newydd (adroddiad Dyfodol Llwyddiannus a gwaith yr Ysgolion Arloesi) a’r safonau newydd ar gyfer arfer broffesiynol.

6.6       Mae gwaith pellach yn cael ei gyflawni ar hyn o bryd i dargedu adnoddau a sicrhau bod y Rhaglenni Dysgu Proffesiynol pwrpasol yn mynd i’r afael ag anghenion unigolion neu grwpiau o ysgolion, yn arbennig yn y sector uwchradd.

6.7       O ran y Rhaglenni Dysgu Proffesiynol ar gyfer staff GwE – mae’r gallu i herio a chefnogi ysgolion uwchradd a rôl yr ymgynghorwyr her uwchradd yn cael ei adolygu ar hyn o bryd i adlewyrchu blaenoriaethau’r gwasanaeth.

7.0       Ymgynghori a wnaed

 

7.1       Ymgynghorwyd ag ystod eang o randdeiliaid ynghylch datblygiad yr holl Raglenni Dysgu Proffesiynol, yn cynnwys ymarferwyr, Penaethiaid, cynrychiolwyr ALl, ymgynghorwyr allanol, consortia eraill a Llywodraeth Cymru; bydd rhaglenni’r dyfodol yn cymryd y gwersi a ddysgwyd a’r sylwadau ar gyfer gwella a nodwyd yn yr arfarniadau a dderbyniwyd i ystyriaeth.